Isaiah 21

Cwymp Babilon
21:0 Babilon Cafodd Babilon ei choncro gan y Brenin Cyrus a'i fyddin yn 539 CC

1Neges am “yr Anialwch wrth y môr” (sef Babilon):

Fel y gwyntoedd stormus
sy'n rhuthro drwy'r Negef,
mae e'n dod o'r anialwch,
o wlad sydd i'w hofni.
2Cafodd gweledigaeth erchyll
ei rhoi i mi:
“Mae'r bradwr yn bradychu,
a'r dinistrydd yn dinistrio!
Ymlaen, Elam!
Gwarchae arni, Media!
Dw i am roi taw ar y griddfan mae wedi ei achosi.”
3Yn sydyn, mae fy nghorff yn ddolur i gyd;
Mae poenau yn gafael yno i
fel gwraig mewn poen wrth gael babi.
Dw i wedi fy llethu gan beth dw i'n ei glywed,
ac wedi dychryn gan beth dw i'n ei weld.
4Mae'r galon yn pwmpio a dw i'n crynu mewn panig.
Mae fy mreuddwyd am wawr newydd wedi troi'n hunllef:
5Mae “Trefnwch wledd”
wedi troi'n “Gosodwch wylwyr!”
“Bwytwch ac yfwch!”
wedi troi'n “Codwch swyddogion! Paratowch y tariannau!”

6Achos dyma ddwedodd y Meistr wrtho i:

“Dos, gosod wyliwr i edrych allan,
a dweud beth mae'n ei weld.
7Pan fydd yn gweld cerbyd gyda phâr o geffylau,
marchog ar asyn neu farchog ar gamel,
dylai ddal sylw a gwylio'n ofalus.”

8Yna dyma'r gwyliwr yn gweiddi'n uchel:

“Meistr, dw i wedi sefyll ar y tŵr gwylio drwy'r dydd,
ac wedi edrych allan bob nos.
9Ac edrych draw! Mae rhywun yn dod –
Dyn mewn cerbyd
gyda phâr o geffylau!”
Ac mae'n gweiddi'n uchel,
“Mae wedi syrthio!
Mae Babilon wedi syrthio!
Mae'r delwau o'i holl dduwiau
yn ddarnau mân ar lawr!”
10Chi sydd wedi dioddef –
fy mhobl ar fy llawr dyrnu:
Dw i wedi dweud wrthoch chi
beth glywais i gan yr Arglwydd holl-bwerus,
Duw Israel.

Cosbi Edom

11Neges am Dwma.

Mae rhywun yn galw arna i o Seir:
21:11 Dwma … Seir Dwma: gwerddon (oasis) yn anialwch gogledd Arabia. Seir: ardal fynyddig yn Edom, i'r de-orllewin o'r Môr Marw.

“Wyliwr, faint o'r nos sydd ar ôl?
Wyliwr, faint o'r nos sydd ar ôl?”
12Atebodd y gwyliwr,
“Mae'r bore yn dod, ond daw'r nos yn ôl.
Os ydych chi am ofyn eto, gofynnwch.
Trowch! Dewch yn ôl!”

Cosbi Arabia

13Neges am Arabia.

Cuddiwch yn nrysni'r anialwch,
chi grwydriaid Dedan!
21:13 Dedan Ardal yng ngogledd-orllewin Arabia.

14Rhowch ddiod o ddŵr i'r sychedig,
chi sy'n byw yn Tema;
21:14 Tema Ardal yng ngogledd Arabia.

rhowch fara i'r ffoaduriaid,
15achos maen nhw'n dianc rhag y rhyfel:
rhag y cleddyf wedi ei dynnu o'r wain,
rhag y bwa sy'n barod i saethu,
a rhag caledi'r frwydr.

16Achos dyma ddwedodd fy Meistr wrtho i: “Mewn blwyddyn union
21:16 blwyddyn union Hebraeg, “mewn blwyddyn, fel blynyddoedd gweithiwr” h.y. yn cael eu cyfri'n fanwl gywir.
bydd ysblander Cedar
21:16 Cedar Ardal yn anialwch Arabia.
wedi darfod;
17nifer fach iawn o arwyr Cedar sy'n saethu gyda'r bwa fydd ar ôl.” Mae'r Arglwydd, Duw Israel, wedi dweud.

Copyright information for CYM